Un crwbi sy gan y camel Arabaidd, ond mae gan y camel Bactriaidd ddau grwbi, ac mae hefyd yn cael yr enw camel dau grwbi neu gamel dau grwmp.
Mae hwn, y camel dau grwmp, yn dal i grwydro'n rhydd ar wastatiroedd diffaith Mongolia ond mae'r camel Arabaidd neu'r dromedari felmae'n cael ei alw,wedi'i ddofi i raddau helaeth iawn.